Ystyr Enwau Lleoedd: Pwysigrwydd Enwau Lleoedd Cymraeg mewn Hinsawdd sy’n Newid

Un o chwe elfen siarter Creu Lleoedd Cymru yw ‘Hunaniaeth’. Mae iaith sy’n ffynnu a chyfoeth diwylliannol hefyd yn gonglfeini Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae llawer o leoedd Cymru, p’un a ydynt yn rhai hynafol neu rai modern, yn cael eu hamgyffred yn ôl eu hystyr, ac mae eu hystyr yn ddealladwy o hyd mewn Cymraeg cyfoes. Ond sut maen nhw’n cyfleu ‘hunaniaeth’, ac a allai hunaniaeth lle gael ei heffeithio gan hinsawdd sy’n newid?

Mae enwau lleoedd Cymraeg yn aml yn dweud wrthym am dirwedd y lle, yn ogystal â’i leoliad, ei hanes a’i dreftadaeth. Mae’r enw’n rhan hanfodol o’i hunaniaeth. Gydag effeithiau newid hinsawdd yn bygwth siapio dyfodol tirwedd Cymru, mae hi’n bwysicach nag erioed ein bod yn gwerthfawrogi’r hyn y mae’r enwau hyn yn ei olygu. Pan fo’r hinsawdd yn newid, mae’r tir yn newid – tir sydd wedi ei siapio, ei adnabod a’i ddirnad ers cenedlaethau. O’r herwydd, heb gamau gweithredu sylweddol, gallai ein henwau lleoedd droi’n gerrig coffa sy’n  cyfleu’r hyn a oedd yn arfer bod, nid yr hyn sydd.

Mae Aberteifi, Abergwyngregyn, Aberystwyth, Aberarth, Abertawe ac Aberdaugleddau wedi’u lleoli wrth yr arfordir, ac yn aml, ystyr ‘Aber’ yw cydlifiad dau gorff o ddŵr. Gall hyn gyfleu newid yn y dirwedd i’r dyfodol.

Gallai lleoedd ag enwau megis Glanyfferi, Glanyrafon, Glan-y-wern, a Glan-y-gors, lle bo ‘glan’ yn awgrymu lleoliad wrth dŵr, weld newid mawr yn sgil llanwau cyfnewidiol a llifogydd. Mae ‘traeth’ yn air arall sydd i’w weld yn aml mewn  enwau lleoedd Cymru. Mae Pentraeth, Traeth Mawr, Trefdraeth a Traeth Bach oll yn cynnwys yr elfen hon.

Mae Cors Fochno, Cors Caron, Cors Ddyga, a Glan-y-gors oll yn cynnwys y gair ‘cors’, sy’n cyfeirio at gorstir. Wrth i fawn gael ei echdynnu ar raddfa ddiwydiannol, ac wrth i losgi effeithio ar gorstiroedd, mae’n hanfodol bwysig bod y tirweddau hyn yn cael eu hamddiffyn, eu cydnabod am eu pwysigrwydd, a’u dathlu. Mae ‘gwern’ yn cyfeirio at y wernen, sef coeden sy’n tyfu mewn gwlypdiroedd a chorstiroedd, ac mae i’w gweld mewn enwau megis Gwernydomen, Gwernymynydd, Glanywern, a Penywern.

Mae tirweddau ac iaith yn llawn awgrymiadau a all ddweud wrthym am hanes ardal, a hanes y bobl a chymunedau ledled Cymru. Mae ‘ynys’ yn golygu tir wedi’i amgylchynu gan ddŵr, ac mae i’w weld mewn enwau ynysoedd megis Ynys Llanddwyn, ond hefyd ar ardaloedd mewndirol, megis Ynyslas ger Aberystwyth.

Mae Morfa yn cyfeirio at forfa heli neu rostir, ac mae i’w weld mewn enwau lleoedd megis Tremorfa, Morfa Nefyn, Morfa Bach, Penmorfa, a Morfa Harlech. Gallai’r  tirweddau newid yn sylweddol oherwydd y defnydd o blaladdwyr a gwrtaith ar dir amaeth cyfagos, cynnydd yn lefel y môr a llygredd mewn afonydd. Os caiff y lleoedd hyn eu trawsnewid, a allant barhau i fod yn forfeydd?

Mae llawer o elfennau enwau lleoedd Cymru yn dweud wrthym am eu tirwedd a’u lleoliad, megis Mign, Tywyn, Trwyn, Pwll, Rhyd, Penrhyn, Sarn, Ystum, Cildraeth, Gwastad, Isel a Gwaelod - yn aml, bydd hyd yn oed y rheiny nad ydynt yn siarad Cymraeg yn rhugl yn deall y rhain. Maent yn ystyrlon - maen nhw’n clymu’r rheiny sy’n ymuniaethu fel pobl Gymreig mewn cyd-ddiwylliant..

Mae’n hynod bwysig bod yr enwau lleoedd hyn yn cael eu cydnabod a’u dathlu. Nid yw lleoedd nac enwau lleoedd yn bodoli ar eu pennau eu hunain: ffrwyth gweithredu a dehongli ydyn nhw. P’un a ydyn nhw’n rhai modern neu rai hynafol, mae ffordd o fyw rhywrai wedi llunio’r lle hwnnw; mae rhywrai wedi ystyried y dirwedd a rhoi enw arni ar sail eu profiad ohoni. Mae’r enwi a’r llunio hwnnw yn troi tir yn lle.

Mae tirwedd Cymru yn gyforiog o’r enwau hyn. Chwiliwch amdanyn nhw, dysgwch am eu hystyr, cysylltwch â’r gorffennol a wnaeth eu siapio nhw, ac fe fydd y tir yn llefaru.

gan Efa Lois