
Y Bridge Street Project – Defnyddio Ymyriadau Bach i Ailfeddwl am Fannau Cyhoeddus
Mae’r erthygl hon yn addasiad o astudiaeth achos o’r llyfr Jones, M. (2020). Transforming towns: Designing for smaller communities. London: RIBA Publishing.
Mae’r Bridge Street Project yn rhan o broses hirdymor o ailystyried dyfodol Upper Bridge Street yn nhref farchnad ganoloesol Callan i’r de o Kilkenny yn Iwerddon. Datblygwyd y prosiect drwy waith cydweithio rhyngddisgyblaethol i archwilio rôl y stryd fawr fel gofod dinesig cyfunol.
Mae Upper Bridge Street yn stryd gul a oedd yn arfer bod yn stryd farchnad yn y dref. Ar un adeg, roedd yno dafarndai, siopau bwyd, siopau dillad a becws, ond roedd y cynnydd mewn tagfeydd traffig yn ystod yr ugeinfed ganrif wedi difetha’r bywiogrwydd hwn. Yn yr 1980au, dechreuodd busnesau symud oddi yno ac roedd y stryd yn wag erbyn diwedd y 1990au.
Ers rhai blynyddoedd, mae digwyddiadau celfyddydol wedi cael eu cynnal yn Callan, sy’n gysylltiedig â gŵyl gymunedol o gyfranogiad a chynhwysiant. Roedd y digwyddiadau hyn yn cynnwys cyfres o ysgolion haf dylunio ac adeiladu i greu ymyriadau dros dro ar dir y cyhoedd. Arweiniodd yr ysgolion haf hyn at gyfranogiad Callan mewn prosiect a oedd yn archwilio sut roedd plant yn defnyddio’r dref, gyda Bridge Street yn cael ei chau ar gyfer gemau sialc, bwyd, cerddoriaeth fyw a disgo i blant. Tua’r un pryd, agorwyd caffi dros dro mewn siop wag i ddechrau sgwrs gyda’r gymuned i archwilio hygyrchedd Bridge Street. Bu pobl leol yn rhannu eu straeon dros baned, ac o hynny daeth y syniad i ddatblygu sgript theatr a oedd yn cynnwys straeon lleol.
Arweiniodd y digwyddiadau hyn at y Bridge Street Project, a oedd yn cyfuno cynhyrchiad theatr ‘Bridge Street Will Be’ ac ymyriad pensaernïol ‘Reflected Elevation’.
Nod y prosiect Reflected Elevation oedd mynd i’r afael ag adfywio mannau awyr agored drwy gynnal gweithdai cymunedol. Roedd dros 50 o gyfranogwyr wedi ymuno â gweithdai i beintio darlun o ffasadau’r adeiladau a oedd yn cynrychioli bywydau amrywiol y stryd ac yn cofnodi’r newidiadau i’r adeiladau. Roedd cau’r stryd am ychydig oriau bob dydd yn creu darn o dir cyhoeddus newydd, yn creu cyfleoedd i bobl gyfarfod, ac yn galluogi pobl leol i edmygu harddwch yr adeiladau. Er bod cau’r stryd yn rhwystr i’r gymuned ehangach, arweiniodd hyn at ymgysylltu â thrigolion na fyddent o bosib wedi cymryd rhan fel arall.
Roedd y cynhyrchiad theatr yn canolbwyntio ar gyfranogiad dinesig ar sail perfformiad ac ymgysylltu â mannau mewnol y stryd. Creodd gwneuthurwr theatr leol sgript a oedd yn cynnwys chwedlau lleol a hanesion llafar. Bu cast o dros 80 o actorion cymunedol a phroffesiynol yn perfformio straeon gan ddefnyddio’r stryd a’i hadeiladau fel eu llwyfan mewn cynhyrchiad theatr ymdrochol. Roedd y gynulleidfa’n cael crwydro i mewn ac allan o adeiladau ac i fyny ac i lawr y stryd, gan ailddarganfod y rhan hon o’r dref a oedd yn cael ei hanwybyddu.
Roedd y digwyddiadau hyn wedi dod â phobl at ei gilydd i ddatblygu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer adnewyddu Bridge Street ac roedden nhw wedi cyfrannu at Gynllun Ardal Leol Callan ar gyfer 2019. Mae Bridge Street wedi cael ei nodi fel ardal hollbwysig y mae angen ei hadfywio, ac fe gawsant gyllid fel rhan o astudiaeth beilot i annog mwy o bobl i fyw mewn trefi gwledig.
Drwy ddull arloesol a chydweithredol o ymgysylltu â phobl leol ac ymyriadau ar raddfa fach, mae’r prosiectau yn Callan yn dangos y gwerth y gall penseiri a dylunwyr ei gynnig i ailystyried mannau cyhoeddus mewn pentrefi bach. Mae’r perfformiad ymarferol a chyfres o brosiectau wedi trawsnewid y dref mewn ffordd gadarnhaol, ac wedi dylanwadu ar feddwl tymor hir am ddyfodol y dref.
Cydnabyddiaeth
Pensaer: Studio Weave
Cleient: Trasna Productions
Cynhyrchwyr Ymgysylltu Dinesig: Rosie Lynch, Etaoin Holahan
Comisiynwyd gan: Trasna Productions
Cyllidwyr: Partneriaeth Arweinwyr Cyngor Celfyddydau Kilkenny
Cwmni Theatr: Equinox Theatre Company Asylum Productions
Awdur: John Morton
Llun 1: Perfformiad ‘Bridge Street Will Be’. Llun: Neil O'Driscoll.
Llun 2: Perfformiad ‘Bridge Street Will Be’. Llun: Brian Cregan.