Marchnadoedd Stryd a Siopau Dros Dro

Ben Reynolds, Cyfarwyddwr Urban Foundry

Mae bywiogrwydd cymdeithasol a masnachol canol ein trefi yn dioddef storm berffaith sydd wedi digwydd yn sgil penderfyniadau cynllunio trychinebus yn canolbwyntio ar geir, trafnidiaeth gyhoeddus wael, cynlluniau teithio llesol gwan, manwerthu y tu allan i drefi, poblogaethau preswyl annigonol yng nghanol ein trefi, siopa ar y rhyngrwyd, a byd ansicr o weithio hybrid a chostau cynyddol ar ôl Covid. Mae siopau gwag a mannau cyhoeddus gwag yn ddau o brif symptomau’r dirywiad.

Mae angen ffyrdd newydd o wneud pethau ac ailddarganfod rhai o’r hen ffyrdd hefyd. Fe wnaeth yr enwog Jane Jacobs ddisgrifio pedair nodwedd allweddol i ‘dref dda’, sef: dwysedd, blociau â pherimedrau byr, adeiladau amrywiol, a defnyddiau cymysg. Byddwn i’n ychwanegu pumed: mannau cyhoeddus o safon. Mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar fesurau cyflym, ysgafn a (chymharol) rhad a gyflwynwyd gan Urban Foundry i fynd i’r afael â dau o’r rhain, sef: defnydd cymysg a mannau cyhoeddus.

Yn gyntaf, mae marchnadoedd stryd bywiog yn nodwedd ar y Cyfandir, ond yn rhywbeth rydym wedi colli’r arfer o’i wneud yn y DU. Mae cyfres o farchnadoedd stryd wedi cael eu creu ym Mae Abertawe i roi bywyd newydd i fannau cyhoeddus a fyddai, fel arall, yn cael eu dominyddu gan geir neu na fyddent yn cael eu defnyddio ddigon, gan greu ‘lle i bobl’ am y tro a rhoi cyfleoedd i fusnesau artisan bach lleol.

Dechreuodd menter gymdeithasol Marchnadoedd Stryd Bae Abertawe gyda Marchnad Uplands yn 2013, ac mae honno wedi llwyddo i ennill gwobrau. Bellach mae’n cynnal marchnadoedd misol ar draws Bae Abertawe yn y Marina, y Mwmbwls, Port Talbot a Phontardawe. Dyma oedd canfyddiadau ymchwil gan ysgol fusnes Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant:

  • roedd 70% o’r cwsmeriaid yn y marchnadoedd wedi mynd i’r ardaloedd hynny yn unswydd ar gyfer y farchnad;
  • mae’r rhan fwyaf yn gwario o leiaf £10 - £20 mewn siopau lleol (yn ogystal â gwario yn y farchnad); ac
  • roedd y farchnad wedi gwella canfyddiadau o’r ardal.

Yn ail, mae PopUp Wales yn dod â bywyd dros dro i siopau gwag, ac mae’r effeithiau’n debyg: cynyddu nifer yr ymwelwyr, yr amser maent yn ei dreulio yno, eu gwariant a gwella canfyddiadau. Gall siopau dros dro ei gwneud yn haws hefyd i osod siopau gwag yn y tymor hir.

Mae PopUp Wales yn dod o hyd i fannau manwerthu dros dro ar gyfer unigolion, sefydliadau a busnesau sydd eisiau gofod hyblyg, tymor byr a fforddiadwy i roi cynnig ar syniadau. Cynhaliwyd cynlluniau peilot yn Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr yn 2022 gyda chefnogaeth gan y Cynghorau lleol yn y ddwy ardal, cronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, a Chronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU (ym Mhen-y-bont ar Ogwr).

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rhoddodd PopUp Wales gefnogaeth i 30 o fusnesau bach ac 20 o fudiadau gwirfoddol. Yn Abertawe, defnyddiwyd 15 o’r gofodau dros dro gan ddefnyddwyr dinesig a thrydydd sector, busnesau, amryw o brosiectau celfyddydol, gofodau stiwdio, arddangosfeydd dros dro, a gosodiadau.

Mae Llyfrgell Pethau yn siop dros dro yn Abertawe sy’n cael ei rhedeg fel menter gymdeithasol i annog pobl i fenthyca er mwyn lleihau’r ynni a’r adnoddau a ddefnyddir i greu eitemau nad ydynt yn cael eu defnyddio’n aml, ac i wneud eitemau drud yn fforddiadwy i fwy o bobl.

Fe wnaeth y Cwmni Buddiannau Cymunedol Fresh Creative arddangos eu gwaith mewn gofod dros dro yn Abertawe, a oedd yn eu cyflwyno i gynulleidfaoedd na fyddent fel arfer yn gallu eu cyrraedd. Maen nhw bellach yn chwilio am leoliad mwy parhaol yng nghanol y ddinas o ganlyniad i hynny.

Mewn cyfnod pan fo nifer fawr o adeiladau gwag mewn llawer o drefi a dinasoedd, mae angen cymaint o arfau â phosibl arnom ar gyfer adfywio. Er nad yw gofod dros dro/cyfamserol yn ateb ein holl broblemau, mae wedi dod yn llawer mwy amlwg yn y cyfnod ar ôl Covid fel ffordd o fynd i’r afael â’n problemau.

Beth am ddechrau rhywbeth yn eich tref chi?

 

Cynhwysion Allweddol ar gyfer Marchnadoedd a Siopau Dros Dro Llwyddiannus

Deall sut mae eich tref neu’ch dinas chi yn gweithio

Mae marchnadoedd a siopau dros dro yn gweithio’n dda pan rydyn ni’n deall sut a pham mae pobl yn defnyddio gofod mewn ardaloedd trefol ac ym mhle y bydd pethau’n gweithio (ac ym mhle na fyddant yn gweithio). Allwch chi ddim chwifio hudlath i’w gosod yn unrhyw le.

Mae angen i’r adeiladau fod men cyflwr rhesymol

Mae angen adeiladau sy’n gadarn yn strwythurol ac yn dal dŵr fel ei bod yn hawdd rheoli’r gwaith sydd angen ei wneud er mwyn gallu eu defnyddio, fel gwaith cydymffurfio (sylfaenol) yn bennaf, cyfleusterau lles syml, a gwaith uwchraddio cosmetig. Defnyddiol hefyd fyddai cael rhywfaint o gyllid cyfalaf i helpu gyda’r gwaith hwn – mae cynlluniau siopau dros dro nawr yn gymwys fel pennawd cost o dan ffrwd gyllido Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Rhaid iddo fod yn ddefnydd priodol ar gyfer daliadaeth tymor byr

Nid yw siopau dros dro yn ffordd o gael prydlesi tymor hir yn rhad ac am ddim. Mae siopau dros dro yn rhai o natur tymor byr, felly byddwch yn barod iddyn nhw gael eu cymryd oddi arnoch ar fyr rybudd, neu paratowch i dalu cyfradd y farchnad fasnachol am y gofod yn y tymor hir os ydych chi eisiau aros.

Ychydig o greadigrwydd

Maen nhw’n amrywio, ac mae rhai’n sicr ar begwn rhataf  y sbectrwm, ond mae angen rhywfaint o greadigrwydd ac ychydig o feddwl i wneud i leoedd edrych yn dda a gweithio ar gyllidebau isel o fewn amserlenni byr. Mae angen i chi gael rhywbeth sy’n gallu bod yn barod i’w ddefnyddio’n gyflym ac a fydd yn gweithio.

Mae angen iddyn nhw fod yn eithaf hyfyw o hyd

Er nad oes costau rhentu, mae rhai costau o hyd, yn benodol cyfleustodau, staffio efallai (er bod gwirfoddolwyr yn rhedeg rhai), ardrethi busnes os yw’n berthnasol, a stoc/marchnata/yswiriant a chostau tebyg.

Mae’n hanfodol meithrin perthynas dda gyda landlordiaid

Nid yw pobl yn deall cymaint am siopau dros dro yn y rhan hon o’r byd ag y maen nhw mewn mannau eraill. Rhaid i’r landlord chwarae eu rhan er mwyn i’r siopau fod yn hyfyw.

Mae angen dealltwriaeth gan yr awdurdod lleol a rhywfaint o ‘berchnogaeth’ ganddynt dros y siopau

Mae angen i’r awdurdod lleol ddeall beth rydych chi’n ceisio’i gyflawni a bod yn gefnogol.