Mae’n Amser Bod yn Fwy Gwyllt

Simon Richards, Cyfarwyddwr Land Studio

Pam y gallai creu rhwydwaith mwy gwyllt o fannau gwyrdd fod yn allweddol ar gyfer dyfodol ein trefi a’n dinasoedd.

Wrth i newid hinsawdd ddod yn fygythiad cynyddol, rhaid i’n strydoedd, ein parciau a’n hadeiladau ddod o hyd i ffyrdd o addasu a bod yn fwy gwydn.

Mae treftadaeth gyfoethog ym Mhrydain o ddarparu parciau cyhoeddus a mannau gwyrdd i’n cymunedau. Mae’r mannau cyhoeddus hyn, ochr yn ochr â rôl newidiol strydoedd ein dinasoedd, yn cynnig mynediad i gymunedau at awyr iach ac yn darparu manteision cynhenid o ran yr amgylchedd a hamdden, ond a ydyn nhw’n gwneud digon? Ac a all eu gwneud yn fannau mwy gwyllt gael effaith sylweddol ar newid hinsawdd?

Dylai ein rhwydwaith o barciau, strydoedd a mannau cyhoeddus ddarparu rôl ecolegol hanfodol i helpu i wella bioamrywiaeth a darparu seilwaith gwyrdd a glas hanfodol ar gyfer cymunedau lleol a phoblogaethau o fywyd gwyllt. Drwy greu strydoedd a pharciau mwy gwyllt a mwy naturiol sy’n cynnwys mwy o amrywiaeth o fflora a ffawna, gall ein trefi a’n dinasoedd helpu i hybu cadernid rhag yr hinsawdd a gwella ansawdd bywydau pobl yn ein cymunedau.

Mae manteision gweithredu’r newidiadau sylweddol a buddiol hyn i dir y cyhoedd yn mynd y tu hwnt i gadernid rhag yr hinsawdd; maen nhw hefyd yn helpu i leihau llygredd aer a lefelau sŵn, hidlo dŵr ffo oddi ar arwynebau anhydraidd, cynyddu gweithgarwch corfforol, darparu ffynonellau bwyd i bobl a bywyd gwyllt, yn ogystal â chynnig lloches i rywogaethau brodorol gael ffynnu. Gan fod y newid yn yr hinsawdd eisoes yn effeithio ar ein dinasoedd, rhaid i ni ddechrau creu rhwydweithiau mwy priodol o seilwaith gwyrdd a glas i sicrhau hirhoedledd yr ecosystemau buddiol hyn, a’u bod nhw’n ehangu.

Fel mae erthygl diweddar “Why Landscape Architecture Matters Now More Than Ever” yr Arch Daily yn ei nodi, mae dull mwy cysylltiedig o ddylunio’r amgylchedd adeiledig yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o wella iechyd y cyhoedd, cynaliadwyedd, bioffilia, bywyd gwyllt a gwella bioamrywiaeth yn gyffredinol ar draws y byd.

Mae nifer o brosiectau enghreifftiol lle mae’r dull cysylltiedig hwn wedi gwella natur ac wedi adnewyddu cymunedau, o rwydweithiau seilwaith gwyrdd Systemau Draenio Cynaliadwy ar strydoedd Sheffield a Chaerdydd i Barc Mayfield a gwblhawyd yn ddiweddar ym Manceinion, ac amrywiaeth eang o brosiectau blaenllaw ledled y byd.

Bydd creu’r parciau, y strydoedd a’r mannau cyhoeddus hyn yn y dyfodol yn gofyn am hyd yn oed mwy o feddwl am gynllunio a rheoli cynaliadwy, gan fynd ymhellach gyda strategaethau datblygu integredig lle mae natur a gofod awyr agored yn elfennau hanfodol o’r model. Mae hyn yn golygu ymgorffori dyluniadau sy’n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd gyda rhwydweithiau seilwaith gwyrdd a glas cwbl integredig; defnyddio technegau tirlunio (xeriscaping) i leihau faint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio; creu cynefinoedd gyda fflora a ffawna amrywiol sy’n gysylltiedig â rhwydweithiau draenio cynaliadwy helaeth, lleihau unrhyw darfu ar weithgareddau datblygu; ac, yn benodol, sicrhau bod cymunedau’n ymgysylltu’n llawn â’r amgylchedd o’u cwmpas.

Er y gallai’r prosiectau hyn fod yn heriol i’w gweithredu, mae manteision sylweddol o ran lliniaru’r newid yn yr hinsawdd, gwrthsefyll llifogydd, ansawdd aer a dŵr gwell, cadwraeth bioamrywiaeth ac iechyd meddwl gwell.

Fel mae gwaith gweledigaethol dinasoedd sydd eisoes yn defnyddio’r dull hwn yn ei ddangos, bydd angen i drefi a dinasoedd y dyfodol flaenoriaethu buddsoddiadau mewn seilwaith gwyrdd a rhoi’r prosiectau hyn ar waith yn effeithiol. Dim ond drwy gynllunio gofalus ac ymrwymiad i gadernid i wrthsefyll yr hinsawdd y gallwn greu mannau mwy gwyllt a naturiol sy’n gallu gwrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd. Gyda’r ymdrech hon, gallwn sicrhau bod ein parciau, ein strydoedd a’n mannau cyhoeddus yn parhau i fod o fudd i’n cymunedau am genedlaethau i ddod.