Creu Lleoedd, Cymunedau a'r Broses Gynllunio

James Davies, Prif Weithredwr Cymorth Cynllunio Cymru

Fel sefydliad sy’n ymroddedig i ymgysylltiad cymunedol yn y broses cynllunio mae Cymorth Cynllunio Cymru’n rhoi croeso twymgalon i Bobl a Chymunedau fel un o chwe cholofn y Siarter Creu Lleoedd. I ni, yr allwedd yw gweithio gyda, yn hytrach na, dros gymunedau.

Er yn syml, nid yw cyflenwi ymrwymiad cymunedol ystyrlon bob amser yn hawdd. Mae ymgynghoriad ac ymgysylltiad cymunedol yn cael ei gyflenwi fel gofyn statudol mewn cynllunio, ond gall safbwyntiau cymunedau lleol (hyd yn oed os ydynt yn berthnasol) gael eu cuddio gan flaenoriaethau cystadleuol y gwahanol bobl sy’n gyfrifol am reoli a chyflenwi datblygu.  Mae ymrwymiad y gymuned yn cymryd amser, ac, yn gynyddol, mae adnoddau amser yn gyfyngedig.

Mae rhai o’r prif heriau a welwn ni yn cynnwys:

Ymwybyddiaeth. Yn aml mae cynllunwyr yn clywed gan bobl sydd â llawer i’w ddweud ond nid yw’r mwyafrif  llethol (yn cynnwys y rhai sy’n anodd eu cyrraedd) yn dweud unrhywbeth o gwbl. Nid yw llawer ohonynt yn ymwybodol neu maen nhw’n tanamcangyfrif pwysigrwydd y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) sydd, ar ôl ei fabwysiadu yn hysbysu’r holl benderfyniadau ar geisiadau cynllunio sy’n dilyn.

Apathi. Er bod pobl yn ymwybodol maen nhw’n teimlo dadrithiad ac, mewn rhai achosion, diffyg ymddirediaeth yn y broses gynllunio. Mae hyn wedi ei greu i raddau gan gylch adborth negyddol ble mae profiadau’r gorffennol yn suro ymrwymiad yn y dyfodol.

Gor-bwyslais ar broses, yn enwedig ynghylch gweithgareddau ymrwymiad. Dim ond ychydig o ddulliau a ddefnyddir, mae adborth i’r cyfranogwyr yn gyfyngedig yn aml ac mae mesuriadau llwyddiant (os y’u gwerthusir) yn aml yn canolbwyntio ar gyrraedd yn hytrach nag ar ansawdd neu ganlyniad.

Un elfen o’r broses gynllunio a all oresgyn yr heriau hyn yw cynhyrchu Cynlluniau Cynefin. Dogfennau yw Cynlluniau Cynefin a gynhyrchir gan gymunedau ac a ellir eu mabwysiadu fel Canllaw Cynllunio Atodol (hynny yw, yn atodol i’r CDLl) ac a all ddylanwadu ar benderfyniadau ar geisiadau cynllunio wedi hynny.

Mae Cymorth Cynllunio Cymru wedi gweithio gyda chymunedau ble mae cynhyrchu Cynllun Cynefin wedi golygu ystod o fuddiannau, ac nid y lleiaf o’r rhain yw creu dogfen gynllunio a ellir ei gweithredu a’i chlodfori gan y gymuned.

Gall cynhyrchu Cynllun Cynefin hwyluso mwy o ymwybyddiaeth gan y gymuned ar gynllunio a maethu cydweithrediad gydag ystod eang o randdalwyr.  Gall hefyd helpu cymunedau i ddod at ei gilydd i gyflenwi newid cadarnhaol yn eu cynefinoedd; eisoes defnyddiwyd y dystiolaeth a gasglwyd i gynhyrchu Cynllun Cynefin Y Drenewydd a Llanllwchaiarn i sicrhau dros £1 miliwn i ariannu prosiectau yn yr ardal.

Hefyd mae Cynllun Cynefin Y Drenewydd a Llanllwchaiarn wedi nodi (a thystiolaethu) blaenoriaethau’r gymuned ar gyfer cynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol y dyfodol. I ni mae hwn yn gam cyntaf i greu cylch adborth cadarnhaol a all gyflenwi creu lleoedd yn wych mewn cynllunio.

placemaking_Guide_Digital_WEL_v3