DCFW sy'n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022 - Chithra Marsh

Mae ein cydweithiwr Chithra Marsh yn rhannu ei meddyliau heddiw i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a helpu #breakthebias #IWD #IWD2022

Chithra Marsh

LLYTHYR DIOLCH I FAM BENDERFYNOL

Annwyl Mam,

Ar ôl yr holl amser!

Rwyf wedi bod yn meddwl llawer amdanoch yn ddiweddar – am y gwersi y gwnaethoch eu dysgu i mi drwy ddweud eich storïau drosodd a throsodd, a sut y gwnaethoch chi ddylanwadu arna i a’m gwneud yn fenyw Indiaidd gref ag uchelgais.

Ro’n i wrth fy modd yn clywed mai chi oedd y fenyw gyntaf i fynd allan i weithio yn ein teulu ni. Mae’n rhaid bod mynd yn groes i’r traddodiad wedi bod yn anodd, ond cawsoch eich gwobrwyo â swydd mewn cyfnewidfa ffôn a wnaeth eich helpu i wella eich sgiliau Saesneg a gwneud ffrindiau da. Rwy’n siŵr eich bod wedi cael llawer o hwyl hefyd!

Roedd gadael diogelwch cartref eich teulu yn Bangalore a symud i’r DU gyda Dad yn y 1960au, a mynd ati ar unwaith i chwilio am waith a sicrhau eich annibyniaeth, hefyd yn gam dewr. Gwrthod y swydd mewn siop saris a gynigiodd y ganolfan waith i chi fel yr unig opsiwn i fenyw Indiaidd, a chychwyn gyrfa faith ym maes Cyfrifon.

Roeddech chi eisiau ffitio i mewn, felly fe wnaethoch chi beth oedd yn rhaid i chi ei wneud er mwyn cael eich derbyn yn y byd newydd hwn. Gwisgo dillad ‘Gorllewinol’, a chadw eich saris at achlysuron arbennig. Bod yn ofalus wrth goginio hefyd, gan gadw’r cymdogion yn hapus drwy wneud yn siŵr nad oedd arogl y bwyd yn rhy gryf. Trueni na fyddech chi wedi cael eich derbyn a’ch gwerthfawrogi am yr hyn oeddech chi – menyw Indiaidd falch ag uchelgais (a oedd yn coginio seigiau anhygoel o Dde India!)

Roeddech chi am i mi gael fy nhrin fel pob plentyn arall o’r dechrau un, a pheidio â theimlo fy mod yn wahanol, felly dyma chi’n dweud hynny wrth fy athrawes gyntaf. Fe wnaethoch chi fy annog i barchu fy nhreftadaeth a’m diwylliant Hindŵaidd, ac roedd gennych ddisgwyliadau uchel ar gyfer fy addysg a’m gyrfa.

Roedd yna adegau pan nad o’n i’n gwerthfawrogi beth roeddech chi’n ceisio ei wneud, ond o edrych yn ôl, rwy’n gwybod mai ceisio rhoi gwell cyfleoedd i mi gael fy nerbyn ac i ffynnu oedd eich bwriad. Er nad ydych chi yma nawr, mae eich llais yn fy mhen ac mae eich storïau yn ysbrydoliaeth i mi.

Diolch i chi, rwyf wedi ymrwymo i gefnogi cynhwysedd ac amrywiaeth yn y diwydiant adeiladu. Rwyf eisiau ysgogi newid cadarnhaol fel na fydd neb arall yn teimlo bod angen newid pwy ydyn nhw er mwyn ffitio i mewn.

Dim rhagfarn. Dim stereoteipiau. Dim gwahaniaethu.

Diolch Mam.

#breakthebias #IWD2022

 

Mae Chithra Marsh yn Gyfarwyddwr Cyswllt yn Buttress Architects.