Newyddion Polisi Ebrill 2021
Cymru’r Dyfodol
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040’ ar 24 Chwefror gan olygu mai hwn oedd y cynllun datblygu cenedlaethol cyntaf erioed yn y Deyrnas Unedig.
Mae Cymru’r Dyfodol yn gynllun hirdymor sy’n gosod allan ganlyniadau gofodol strategaethol Llywodraeth Cymru; mae’n integreiddio ystod eang o nodau polisi; wedi ei ddatblygu trwy raglen pedair blynedd o ymwneud ac asesu eang; a bydd ei gyflawni yn cael ei yrru gan gydweithio ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector.
Rhai o brif elfennau polisi Cymru’r Dyfodol yw:
- Dylai twf strategol gael ei ganolbwyntio mewn tair ardal twf cenedlaethol. Nid oes disgwyl i bob rhan o Gymru dyfu’n gyfartal. Mae Cymru’r Dyfodol yn pennu y dylai twf gael ei ganolbwyntio mewn ardaloedd adeiledig sefydledig ac mewn ambell i le arall arbennig. Mewn rhai ardaloedd twf mae gofyn sefydlu Lleiniau Glas i reoli twf. Mae ardaloedd twf cenedlaethol yn cael eu hategu gan ardaloedd twf rhanbarthol wedi’u gwasgaru trwy Gymru gyfan.
- Pwyslais cryf ar greu lleoedd cynaliadwy. Bydd canol dinasoedd a threfi yn cael budd o bolisi canol trefi yn gyntaf sy’n ymwneud â chyfleusterau masnachol, manwerthu, addysg, iechyd a gwasanaethau cyhoeddus.
- Mewn ardaloedd gwledig, dylid pennu patrymau twf yn lleol, i adlewyrchu angen. Dylai cymeriad, darpariaeth gwasanaethau a hygyrchedd lleoedd bennu dyheadau a chynlluniau twf. Mae Cymru’r Dyfodol yn blaenoriaethu bywiogrwydd a safon bywyd dros fynd ar ôl twf er ei fwyn ei hunan.
- Mae Cymru’r Dyfodol yn adnabod ble a sut y bydd datblygiad egni adnewyddadwy newydd mawr yn dderbyniol. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad cryf Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â newid hinsawdd a’r datganiad o argyfwng hinsawdd. Mae hefyd yn adnabod ardaloedd blaenoriaeth ar gyfer rhwydweithiau gwres ardal.
- Mae Cymru’r Dyfodol yn gosod fframwaith ar gyfer cynllunio rhanbarthol, adnabod sut y dylai Cynlluniau Datblygu Strategol edrych, a'r ardaloedd polisi y dylent ymdrin â nhw.
- Dylid mynd i’r afael â pherygl llifogydd mewn ardaloedd twf mewn ffordd strategol, tra bod y cynllun yn gosod pwyslais cryf ar ddatblygu rhwydweithiau ecolegol cadarn ac isadeiledd gwyrdd.
- Mae ffocws cryf ar gyflawni teithio llesol, cynlluniau Metro a gwella cysylltedd cenedlaethol. Mae’r polisïau trafnidiaeth yn ategu Strategaeth Trafnidiaeth Cymru- Llwybr Newydd.
- Ffocws clir ar gyflawni tai fforddiadwy gan gynorthwyo i sicrhau bod gan bawb fynediad at dai da.
- Cefnogaeth ar gyfer cyfathrebu digidol gwell ac ymrwymiad i adnabod Parthau Gweithredu Telathrebu Symudol lle nad oes ond ychydig neu ddim signal telathrebu symudol.
- Cefnogaeth i’r Goedwig Genedlaethol sydd ar y gweill, a fydd yn esblygu dros safleoedd lluosog ar draws Cymru.
Bydd angen i benderfyniadau rheoli datblygu, Cynlluniau Datblygu Strategol a Lleol, apeliadau cynllunio a phob gwaith arall a gyfarwyddir gan y cynllun datblygu fod yn unol â Chymru’r Dyfodol. Bydd hyn yn sicrhau bod y system gynllunio wedi’i halinio ar bob lefel i weithio gyda’i gilydd i gynorthwyo i gyflawni ein hamcanion.
Mae Cymru’r Dyfodol yn rhoi cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio rhanbarthol, sy’n golygu paratoi Cynlluniau Datblygu Strategol yn y Gogledd, y Canolbarth, De Cymru a’r De-ddwyrain. Mae cyhoeddiad Cymru’r Dyfodol yn nodi dechrau’r broses hon, ac mae gweithredu Cymru’r Dyfodol yn allweddol i sicrhau ein bod yn cyflawni’r canlyniadau hyn.
Polisi Cynllunio Cymru argraffiad 11 newidiadau
Mae cyhoeddiad Cymru’r Dyfodol wedi arwain at ddiweddariadau i Bolisi Cynllunio Cymru i sicrhau bod y ddwy ddogfen yn alinio. Mae’r newidiadau yn adlewyrchu diweddariadau deddfwriaethol, polisi ac arweiniad ehangach ynghyd â:
- Gwybodaeth am Siarter Creu Lleoedd Cymru a phwysigrwydd y gofyniad am isadeiledd teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yn gynnar yn y broses ddatblygu.
- Pandemig Covid-19 a dogfen Adeiladu Lleoedd Gwell Llywodraeth Cymru sy’n nodi’r blaenoriaethau a’r gweithredu mwyaf perthnasol yn y polisi cynllunio er mwyn cynorthwyo yn yr adferiad.
Y newyddion yn fyr
-
- Mae fersiynau byr o adran Cynllunio a Chreu Lleoedd Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020 wedi eu cynhyrchu yn Cynllunio a Chreu Lleoedd o’r Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020. Mae’r rhain wedi’u targedu at Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, cynghorau tref, ymgynghorwyr a chymunedau.
- Mae’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) wedi cyhoeddi cyngor ymarferol ar Mental Health and Town Planning: Building in Resilience’ Mae'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) wedi cyhoeddi cyngor ymarferol ar Mental Health and Town Planning: Building in Resilience.
- Dyfarnwyd £100,000 i Drafnidiaeth Cymru er mwyn gwella bioamrywiaeth leol. Dyfarnwyd £100,000 i Drafnidiaeth Cymru er mwyn gwella bioamrywiaeth yng nghyffiniau ei orsafoedd rheilffordd.